Skip to content

Grug Muse

Grug - Thumbnail

Awdur o Ddyffryn Nantlle yw Grug Muse. Ysgrifennu barddoniaeth ac ysgrifau a wna yn bennaf, ond mae hefyd yn olygydd a chyfieithydd. Cyhoeddwyd ei chasgliad diweddaraf, Merch y Llyn, yn 2021, ac mae ei gwaith wedi ymddangos yn O’r Pedwar Gwynt, Codi Pais, Poetry Wales a Wales Arts Review, ac wedi’i gyfieithu i Roeg a Chroateg. Cyd-olygodd y detholiad o ysgrifau Welsh (Plural), a wnaeth cael ei gyhoeddi gan Repeater yng 2022. Y mae hefyd wedi cyd-olygu'r gyfrol Dweud y Drefn Pan Nad Oes Trefn, blodeugerdd o farddoniaeth gyfoes a gyhoeddwyd yn 2020. Yn ei gwaith, mae’n archwilio'r themâu hunaniaeth ac iaith, yn ogystal â natur a’r argyfwng hinsawdd.

Ar gyfer y prosiect hwn, treuliodd Grug amser yn sgwrsio â ffermwyr o bob rhan o Ogledd Cymru i ddeall beth mae dyfodol ein hamgylchedd naturiol yn ei olygu iddyn nhw. Dywedodd: “Mae angen i ni wella'r ffordd rydyn ni'n byw ar y blaned hon. Nid yn unig byw mewn ffordd wyrddach, ond hefyd mewn ffordd decach. Allwn ni ddim gwneud hyn heb glywed lleisiau a straeon yr holl gymunedau y mae'r argyfwng hinsawdd yn effeithio arnynt a'r ffyrdd yr ydym yn dewis ymateb iddo. Rwy'n edrych ymlaen at gael dysgu beth mae ‘byw’n well ar ein planed’ yn ei olygu i gymunedau amrywiol Cymru.”

Trwy’r ymgysylltiad hwn datblygodd gorff newydd o waith i ymateb i themâu Natur a Ni. Gellir gweld y rhain yma:

Cerddi Natur a Ni - Grug Muse