Skip to content

Mae Natur a Ni wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd chi

Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio pryd a pham rydyn ni'n casglu gwybodaeth bersonol am bobl sy'n defnyddio gwefan Natur a Ni, neu'n cymryd rhan yn ein digwyddiadau, sut rydym yn ei defnyddio, yr amodau lle y gallwn ei datgelu i eraill a sut rydym yn ei chadw'n ddiogel.

Efallai y byddwn ni'n newid y Polisi hwn o bryd i'w gilydd, felly dewch nôl i'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Trwy ddefnyddio ein gwasanaethau, rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan y Polisi hwn.

Rheolydd data

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r Rheolydd Data a WiSS yw'r Prosesydd Data ar gyfer gwybodaeth a gyflwynir drwy wefan Natur a Ni. Mae CNC a WiSS wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR). Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data CNC drwy e-bostio dataprotection@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Gwefan Natur a Ni

Mae gwefan Natur a Ni yn cael ei chynnal gan drydydd parti (WiSS) gan ddefnyddio platfform ffynhonnell agored o'r enw Wagtail CMS - Django Content Management System. Mae'r holl gynnwys gwe ac ymholiadau uniongyrchol a wneir trwy'r wefan yn cael eu rheoli gan WiSS.

Pa wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi?

Pan fyddwch chi'n ymweld â gwefan Natur a Ni, bydd yr unig ddata personol yn cael ei gasglu trwy gwcis dadansoddol os cânt eu derbyn. Ni fydd unrhyw wybodaeth bersonol arall yn cael ei chasglu.

Cwcis

Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan Natur a Ni, rydyn ni'n defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol am ymweld â'r safle trwy gyfrwng cwcis. Darnau bach o wybodaeth sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur gan wefannau yw cwcis. Fel arfer, mae gwefannau yn defnyddio cwcis i gofio dewisiadau, neu i ddarparu hysbysebion mwy penodol a pherthnasol yn seiliedig ar ymddygiadau ar-lein. Mae gwefan Natur a Ni yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ddienw am batrymau ymddygiad cyffredinol, fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o'r wefan. Does dim modd nabod rhywun yn bersonol trwy brosesu'r wybodaeth hon. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ddarganfod pwy sy'n ymweld â'n gwefan ni, nac yn caniatáu i Google wneud hynny chwaith.

Enw Darparwr Diben Pryd y daw i ben Math
consent Natur a Ni Cwci gofynnol sy'n cofnodi pa gwci trydydd parti a ganiatawyd, os o gwbl. 1 flwyddyn Cwci HTTP
consent_version Natur a Ni Cwci gofynnol i olrhain fersiynau caniatâd. 1 flwyddyn Cwci HTTP
dc_gtm_UA-# Google Fe’i defnyddir gan Google Tag Manager i reoli’r broses o lwytho tag sy’n perthyn i sgript Google. 1 diwrnod Cwci HTTP
_ga Google Mae’n cofrestru ID unigryw a ddefnyddir i gynhyrchu data ystadegol ar sut mae'r ymwelydd yn defnyddio'r wefan. 399 diwrnod Cwci HTTP
_ga_# Google Fe’i defnyddir gan Google Analytics i gasglu data ar y nifer o weithiau y mae defnyddiwr wedi ymweld â'r wefan yn ogystal â dyddiadau ar gyfer yr ymweliad cyntaf a mwyaf diweddar. 399 diwrnod Cwci HTTP
_gat Google Fe’i defnyddir gan Google Analytics i gyfyngu cyfradd ceisiadau. 1 diwrnod Cwci HTTP
_gid Google Mae’n cofrestru ID unigryw a ddefnyddir i gynhyrchu data ystadegol ar sut mae'r ymwelydd yn defnyddio'r wefan. 1 diwrnod Cwci HTTP

Dolenni

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i/o wefan Cyfoeth Naturiol Cymru a gwefannau ein partneriaid a thrydydd partïon fel YouTube. Os byddwch chi'n dilyn dolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn ac unrhyw wasanaethau sy'n hygyrch drwyddynt eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb neu rwymedigaeth am y polisïau hyn neu unrhyw ddata personol a all gael ei gasglu drwy'r gwefannau neu wasanaethau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn cyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn neu ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Sut fyddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth chi?

Dim ond er mwyn gwella gwefan Natur a Ni.

Pwy sy'n derbyn eich gwybodaeth?

WiSS yw'r prif brosesydd data ar gyfer data sy'n cael ei gasglu trwy wefan Natur a Ni. Hefyd, rydyn ni'n defnyddio proseswyr trydydd parti, felly efallai byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth â nhw. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei phrosesu yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd parti. Dyma'r proseswyr trydydd parti rydyn ni'n eu defnyddio:

  • Bydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, fel perchennog y prosiect, fynediad at yr holl ddata a gesglir ac a brosesir fel rhan o'r prosiect Natur a Ni.
  • WiSS Web Services sy'n cynnal gwefan Natur a Ni
  • Google Analytics i'n cynorthwyo i wella a sicrhau’r gorau o wefan Natur a Ni.

Am ba hyd fydd eich gwybodaeth chi'n cael ei chadw?

Bydd yr unig ddata a gedwir yn ymwneud â'r cwcis trwy Google Analytics. Bydd y data hwn yn cael ei adolygu o bryd i'w gilydd ar gyfer traffig a chynnal a chadw gwefan ac ni fydd yn cael ei storio y tu hwnt i'r gofyniad hwn.

Beth yw eich hawliau unigol?

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, a chyfyngu ar brosesu eich data personol.

Dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data CNC.

Diogelwch eich gwybodaeth

Mae gwybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu i ni yn cael ei storio ar weinydd diogel .

Yn anffodus, nid yw'r broses o drosglwyddo gwybodaeth drwy'r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn ni'n gwneud ein gorau i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data sy'n cael ei drosglwyddo i'n gwefan; mae unrhyw drosglwyddiad yn cael ei wneud ar eich menter eich hun. Unwaith y byddwn ni wedi derbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad heb awdurdod.

Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn

Bydd unrhyw newidiadau posibl i'n polisi preifatrwydd yn y dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon a, lle bo'n briodol, yn cael eu hysbysu i chi drwy e-bost. Cofiwch wirio yma'n aml i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'n polisi preifatrwydd.

Sut i gwyno

Os ydych chi’n anhapus â'r ffordd mae'ch data personol wedi'i brosesu, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data CNC yn lle cyntaf drwy'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych chi'n dal yn anfodlon, mae gennych hawl i wneud cais uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:

Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer SK9 5AF (ico.org.uk)