Skip to content

Durre Shahwar

Durre - Thumbnail

Mae Durre Shahwar yn awdur ac ymchwilydd, a hi yw un o gyd-sylfaenwyr ‘Where I'm Coming From’, cydweithfa gymunedol ar gyfer awduron o liw yng Nghymru. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar hwyluso cymunedol, ymchwil a chreadigrwydd, ac yn croesi’r ffiniau rhwng traethodau, awtoffuglen, a barddoniaeth ryddiaith. Mae Durre yn ymgeisydd AHRC PHD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae'n addysgu Ysgrifennu Creadigol. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi yn helaeth, ac yn fwyaf nodedig yn: Know your place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink), a Homes For Heroes 100 (Festival of Ideas). Y mae hefyd wedi cyd-olygu Just So You Know (Parthian Books). Ar hyn o bryd, mae Durre yn ysgrifennu ei llyfr cyntaf am berthyn fel unigolyn Cymreig–Pacistanaidd, a bydd ei blodeugerdd a gyd-olygwyd, Gathering: Women of Colour on Nature yn cael ei chyhoeddi gan 404 Ink ym mis Chwefror 2024.
Ar gyfer y prosiect hwn, bu Durre yn gweithio gyda’r gymuned Islamaidd yng Nghaerdydd i ystyried beth mae dyfodol ein hamgylchedd naturiol yn ei olygu iddyn nhw. Dywedodd: “Mae pawb yn ddibynnol ar natur ac mae'r argyfwng hinsawdd yn rhywbeth sy’n effeithio arnom ni i gyd, ond yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ymateb iddo mewn ffyrdd gwahanol. Gall newidiadau bach gael effaith fawr, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio a sgwrsio â chymunedau amrywiol i ddarganfod beth fydd y newidiadau bach hynny yn ei olygu iddyn nhw.”

Trwy’r ymgysylltiad hwn, datblygodd gorff newydd o waith barddonol i ymateb i themâu Natur a Ni. Gellir gweld y rhain yma:

Nature and Us Poems - Durre Shahwar

Gyda diolch i: durreshahwar.com