Skip to content

Canfyddiadau Natur a Ni

Fe wnaeth Natur a Ni gynnwys pobl Cymru mewn sgwrs genedlaethol am yr amgylchedd naturiol gyda’r nod o ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer yr amgylchedd naturiol yn 2050, ac ystyried y newidiadau y mae angen inni eu gwneud cyn hynny.

Cynhaliwyd y sgwrs mewn tri cham:

Cam 1

Rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2022, rhoddwyd cyfle i bobl rannu eu barn ar-lein am sut y gallai’r amgylchedd naturiol edrych erbyn 2050. Gallai pobl gwblhau arolwg, cymryd rhan mewn gweminarau neu grwpiau ffocws rhanbarthol. Cynhaliwyd cyfres o weithdai gyda sefydliadau rhanddeiliaid hefyd. Cymerodd dros 3,000 o bobl ran yn y sgwrs genedlaethol. Cafodd eu safbwyntiau eu hadolygu a'u casglu gan ymchwilwyr annibynnol a ffurfio'r sail ar gyfer cam nesaf y sgwrs.

Darllenwch fwy am ganfyddiadau cam 1

Cam 2

Ni lwyddodd Natur a Ni i gyrraedd pawb gyda'r ymgyrch ar-lein. Yn ystod haf a hydref 2022, aethom yn uniongyrchol at gymunedau lleol a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i ofyn eu barn ac i weld pa ganfyddiadau o gam 1 a oedd yn adlewyrchu barn gwahanol gymunedau yng Nghymru; ble’r oedd cytundeb a ble’r oedd angen rhagor o waith i ddod o hyd i dir cyffredin. Aethom i sioeau teithiol mewn gwyliau a digwyddiadau ledled Cymru gan gynnal grwpiau ffocws gyda phobl ifanc, ffermwyr, mentrau bach a chanolig, a sefydliadau oedd yn gweithio gyda chymunedau ethnig amrywiol.

Darllenwch fwy am ganfyddiadau cam 2

Cynulliad y Dinasyddion

Yn ystod gwanwyn 2023, daeth cynulliad dinasyddion Natur a Ni ynghyd i adolygu canfyddiadau Natur a Ni a gwaith ehangach ac i gytuno ar y weledigaeth ar y cyd. Roedd Cynulliad y Dinasyddion yn cynnwys 50 o unigolion o bob rhan o Gymru, a daethant at ei gilydd mewn tair sesiwn i ystyried y dyfodol wrth i gymdeithas a natur ffynnu gyda’i gilydd.

Darllenwch fwy am gynulliad dinasyddion Natur a Ni