Skip to content

Canfyddiadau Cam 1

Cyhoeddwyd Adroddiad Natur a Ni Cam 1 ym mis Gorffennaf 2022.  Mae'n crynhoi canfyddiadau cam cyntaf y sgwrs genedlaethol ar ba fath o ddyfodol yr ydym am ei weld ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.

Cynhaliwyd y sgwrs drwy amrywiaeth o sianeli ymgysylltu ar-lein rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2022. 

Daw’r canfyddiadau ar ôl casglu barn:

  • 3,069 o ymatebwyr i’r arolwg
  • 68 o gyfranogwyr mewn grwpiau ffocws
  • 126 o bobl a fynychodd weithdai a
  • 186 o gyfranogwyr mewn gweminarau

Prif ganfyddiadau

Tri mater allweddol oedd yn peri’r pryder mwyaf i ymatebwyr yr arolwg:

  • Dirywiad neu ddifodiant anifeiliaid a phlanhigion
  • Y newid yn yr hinsawdd
  • Llygredd mewn afonydd, llynnoedd, a dŵr daear

Cynigiodd y cyfranwyr weledigaethau byw a chalonogol ar gyfer y dyfodol, gydag ymatebion cyffredin i'r arolwg yn dod o fewn pum thema:

  • Ffordd wyrddach, hollol wahanol o fyw
  • Cynnydd o ran presenoldeb a hygyrchedd mannau gwyrdd
  • Rheolaeth leol a chymunedol ar adnoddau naturiol
  • Mwy o fesurau i warchod rhywogaethau a bywyd gwyllt
  • Trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol

Y prif newidiadau y mae pobl yn barod i'w gwneud i ddiogelu'r amgylchedd yw:

  • Newid 1: annog mwy o fywyd gwyllt mewn gerddi a chymunedau 
  • Newid 2: bwyta cynnyrch lleol pan mae yn ei dymor a 
  • Newid 3: ymrwymo i ailddefnyddio ac atgyweirio eitemau sydd wedi’u difrodi yn hytrach na’u taflu

Er bod mwy na hanner y rhai a gwblhaodd yr arolwg o'r farn eu bod eisoes yn gwneud cymaint â phosibl, mae'r ffactorau sy'n atal pobl rhag gwneud newidiadau yn ymwneud â’r canlynol:

  • costau ychwanegol a fforddiadwyedd
  • diffyg seilwaith a
  • diffyg polisïau a orfodir gan y llywodraeth

Camau nesaf?

Ein hasesiad oedd bod y rhan fwyaf o bobl a ymatebodd i’r arolwg Natur a Ni yn debygol o fod yn gwybod llawer am y pwnc ac eisoes yn gweithredu ar yr argyfwng natur a hinsawdd.

Cafwyd hefyd rhywfaint o amrywiaeth o ran cyfranogiad o wahanol rannau o Gymru. Gyda hynny mewn golwg, yn ystod cam 2 Natur a Ni aethom ati i geisio barn y grwpiau a’r ardaloedd hynny o Gymru a oedd wedi’u tangynrychioli, gan ofyn i bobl ystyried cyfres o ddatganiadau’n crynhoi canfyddiadau’r cam cyntaf. A oedden nhw’n gweld eu hunain yn y dyfodol sy’n cael ei ddisgrifio?

Er mwyn gwneud hyn, fe aethom i gyfres o ddigwyddiadau mewn ardaloedd lle roeddem wedi cael llai o ymatebion yn ystod ein sgwrs genedlaethol. Fe wnaethom hefyd estyn allan yn benodol i grwpiau a oedd wedi’u tangynrychioli yn sampl ein harolwg, gan gynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl 23 mlwydd oed ac iau.