Skip to content

Llwybr Arfordir Cymru (y Dyfodol)

Roedd Llwybr Arfordir (Dyfodol) Cymru yn gyfres o zddigwyddiadau a gosodiadau creadigol wedi’i lunio a’i arwain gan Alison Neighbour, yn dangos ein perthynas gyda thir a dŵr . Roedd yn gwahodd pobl i archwilio parth rhynglanwol y dyfodol, gan ddechrau yn ein goleudai ar Gors Magwyr ac yng Nglan-yr-afon Casnewydd. Oedd pob golau wedi’i leoli ar arfordir posibl y dyfodol ac yn ein cysylltu yma yng Nghymru â’n ffrindiau ym Mae Bengal trwy ddata llanw byw: pan fydd y llanw yn codi yn Bengal, oedd ein golau yng Nghymru yn fflachio rhybudd am y perygl y mae hwy yn ei wynebu ar hyn o bryd a'r perygl y byddwn ninnau yn ei wynebu yn y dyfodol. Ei fwriad oedd helpu pobl i archwilio'r gofod rhwng y draethlin bresennol ac ymyl y tir a fydd i'w weld yn y dyfodol.

Gwyliwch ffilm am y prosiect yma:

I Natur a Ni, roedd y prosiect yn ffordd o gymryd golwg fwy cynnil a dynol ar y ffordd y byddwn yn addasu i newid hinsawdd fel cymdeithas. Mae hefyd yn ein hatgoffa bod y newid hwn eisoes yn realiti mewn rhai rhannau o’r byd a bod ein hymdrechion yn y presennol yr un mor bwysig â’n bwriad ar gyfer y dyfodol. Mae manylion llawn y prosiect ar gael yma: Llwybr Arfordir Cymru (y Dyfodol) – Archwilio tir dibarhad. (futurecoastpath.org)

Datblygwyd ac arweiniwyd y prosiect hwn gan Alison Neighbour gyda chefnogaeth: