Beirdd Preswyl
Bu Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i hwyluso ymatebion creadigol i’r sgyrsiau Natur a Ni. Fel beirdd preswyl, mynychodd Durre Shahwara Grug Muse ddigwyddiadau Natur a Ni, yn ogystal â chynnal gweithdai creadigol gyda ffermwyr yng Ngogledd Cymru a phobl o gymunedau Islamaidd yng Nghaerdydd i gasglu eu barn am ddyfodol yr amgylchedd yng Nghymru. Yna creodd y ddwy ymatebion i’r sesiynau hyn, Durre trwy gyfrwng y Saesneg a Grug trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar gyfer Natur a Ni, helpodd hyn i lywio rhai o'r lleisiau a oedd yn dod i'r amlwg o'r sgwrs mewn ffordd a oedd yn mynegi cysylltiadau emosiynol personol â'r dyfodol. O obaith i anobaith, mae'r holl deimladau rydym ni'n eu teimlo yn real ac yn bwysig. Pan fyddwn yn gwneud addewid i’n dyfodol, ein teimladau yn aml sy’n ein hysgogi neu’n ein dal yn ôl, ond gallwn golli'r teimladau hyn o ganlyniad i un weledigaeth genedlaethol glir. Wrth ddarllen y gweithiau barddonol y mae Durre a Grug wedi'u cyflwyno, gallwch atgoffa eich hun o’r daith y mae’n rhaid i ni i gyd ei chymryd.
Gyda diolch i: