Skip to content

Manon Steffan Ros

manon - thumbnail

Mae Manon Steffan Ros yn awdur, colofnydd a sgriptwraig sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Cafodd ei geni a'i magu yn Rhiwlas, Dyffryn Ogwen, ond mae bellach yn byw yn Nhywyn, Meirionnydd. Ar gyfer y preswyliad hwn, archwiliodd yn greadigol y berthynas rhwng ei phentref a'r draethlin a gaiff ei rhagweld yn y dyfodol.

Mae Manon wedi creu cyfres o weithiau creadigol, gan gynnwys cerddoriaeth, ffilm, barddoniaeth a sain, yn archwilio’r hyn sy’n cael ei golli mewn cymunedau arfordirol wrth i’r môr godi. Wrth edrych ar hyn o safbwynt ei phlentyn ei hun, archwiliodd yr ymdeimlad o edifeirwch ac euogrwydd o fod yn gwybod am y problemau a fydd yn cael eu trosglwyddo gennym i genedlaethau’r dyfodol.

Beth ddysgodd hi

Nid y gweithredoedd mawr a gofnodwyd mewn hanes yw hanesion ein cymunedau, ond y gweithredoedd bychain a’r atgofion sy’n gwneud inni deimlo ein bod yn perthyn i'n cartref, ein teuluoedd, a’n cymdogion. Roedd edrych ar yr ymchwil hon trwy lygaid ei phlentyn wedi gwneud i natur deimlo’n bersonol iawn i Manon, ac mae canlyniadau'r hyn sy’n digwydd i fyd natur yn bersonol i’w bywyd. Mae ymddiheuro wrth ein plant am yr hyn rydyn ni'n parhau i'w wneud i'w cartref yn rhywbeth pwerus.

Yr hyn y gallwn ei ddysgu

Mae angen inni estyn allan i gymunedau sydd o dan fygythiad o ganlyniad i gynnydd yn lefel y môr a’u helpu i ddogfennu eu bywydau fel y gallant gadw straeon eu cymunedau yn fyw. Gallai hwn fod yn archif cenedlaethol ar gyfer cymunedau arfordirol, yn cynnwys logiau sain a logiau gweledol a allai helpu pobl i ddod i delerau â'r newidiadau sydd i ddod. Yn gysylltiedig â hyn, mae angen inni archwilio ffordd y gall pobl ymddiheuro i genedlaethau’r dyfodol am wneud pethau heddiw a fydd yn niweidio'r byd yn y dyfodol. Gallai hyn fod yn gyfres o dystiolaethau personol y gellir eu cadw mewn ystorfa ganolog fel y gellir cael gafael arnynt yn y dyfodol. Dylid rhoi ystyriaeth i allu'r gweithredu hwn yn y presennol i helpu pobl i fyfyrio ar gyfradd defnydd presennol cymdeithas a chymryd camau cadarnhaol i fyw'n fwy cynaliadwy.