Lisa Heledd Jones
Mae Lisa Heledd Jones yn gweithio gyda sain, stori a thirwedd, yn aml yn cynhyrchu gwaith sain, ffilm a pherfformiad. Ar gyfer y preswyliad hwn, bydd Lisa yn canolbwyntio ar y pentref bychan lle cafodd ei geni a'i chartref – Glyndyfrdwy. Fel llawer o bentrefi bach gwledig, mae mannau a gaiff eu rhannu yn diflannu – y siopau, yr ysgol a’r capeli i gyd ar gau.
Cynhaliodd Lisa gyfres o weithgareddau unigol ac mewn grwpiau, gan godi sbwriel, cerdded, a siarad â phobl ar helfeydd ffyngau o amgylch y pentref. Gwnaeth hyn er mwyn archwilio sut mae'r gymuned ble y cafodd ei magu, ac y mae bellach yn byw ynddi, wedi esblygu dros y blynyddoedd. Mae'n mynd ar daith bersonol yn ôl drwy'r gwahanol gyfnodau y mae hi wedi byw yno a'r argraffiadau y mae'r cyfnodau hynny wedi'u gwneud ar ei bywyd. Un catalydd ar gyfer y prosiect oedd y newidiadau a sylwodd Lisa arnynt yn y gymuned. Mae'r ysgol gynradd, y siop a'r dafarn wedi cau, mae chweched rhan o dai y pentref bellach yn llety gwyliau, ac mae prif iaith y pentref wedi newid o'r Gymraeg i'r Saesneg.
Beth ddysgodd hi
Mae'n sylwi bod hunaniaeth y gymuned yn cael ei cholli gan bod pobl yn dewis ymgysylltu â'r dref agosaf, Llangollen. Yn ei geiriau hi: “Mae'r pentref wedi marw.”
Pwyntiau allweddol i'w hystyried:
Mae ei chymhareb o bryder i weithredu wedi bod yn bell ohoni: Pan mae hi'n gweithio yn rhywle arall, mae yna bryder ond gall ei gadw o dan reolaeth. Ond mae gweithio'n hyperleol yn achosi llawer o boen a phryder iddi. Mae'r pwysau o geisio cyflawni prosiectau creadigol gyda phobl mae hi'n eu hadnabod, ei ffrindiau a'i theulu yn gwneud y broses mor anodd. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn teimlo mor wahanol pan fo’r bobl rydych chi’n eu cofnodi yn agos atoch chi, a’r coed rydych chi’n gofyn i bobl eu parchu yn rhan o’ch bywyd. Yn y bôn, dyw hi ddim eisiau siomi neb. Felly, mae’r gefnogaeth yr oedd y cyfnod preswyl yn ei chynnig o ran hyfforddiant, mentoriaid, y grŵp cymheiriaid ac amser ar gyfer mewnsylliad a myfyrio wedi ei helpu i newid ei hymarfer o geisio casglu a llywio barn pobl eraill i archwilio ei barn ei hun.
Mae hi'n hanu o linach hir o artistiaid sydd wedi ymgysylltu’n gymdeithasol yn y pentref: Mae wedi darganfod aelodau o'r pentref wrth ymchwilio i'w hanes a wnaeth eu hunain yn amlwg er mwyn dod â phobl ynghyd. Pobydd y pentref oedd ag ystafell dywyll yng nghefn y becws a gychwynnodd ddigwyddiad sgetsio yn y pentref i wneud i bobl chwerthin, y bostfeistres a ailsefydlodd y carnifal yn y pentref. Mae'n nodi nad oeddent yn galw eu hunain yn artistiaid, ond creadigrwydd a ysgogodd yr hyn a wnaethant, a dyna'r ffordd y gwnaethant estyn allan i'r gymuned a helpu i ddod â hi ynghyd.
Gall fod yn hi ei hun: Mae ei hymarfer fel arfer yn cylchdroi o amgylch yr awydd i greu digwyddiad y mae hi'n meddwl y bydd yn ddeniadol i bobl. Yn ystod y cyfnod preswyl hwn, bu’n arbrofi drwy wahodd pobl o’r pentref allan fesul un i gerdded gyda hi a rhannu straeon am y pentref a’r lleoedd y maent yn eu caru. Yn dilyn hyn, creodd ofod ar gyfer rhannu straeon personol a myfyrio ar sut rydym yn cysylltu â thirwedd. Defnyddiodd hyn, a'i gwybodaeth am ffyngau, i ddatblygu cyfres o ‘deithiau cerdded llesiant ffyngau’.
Madarchen yw hi: Mae'r rhwydweithiau myseliol wedi dod yn drosiad cryf ym mhreswyliad Lisa. Y rhwydwaith cymorth rhyng-gysylltiedig sydd wedi bodoli ym myd natur ers 450 miliwn o flynyddoedd. Ym meddwl Lisa, mae hyn yn cynrychioli strwythur cymuned wydn, ac mae rôl unigolion y gymuned honno yr un mor bwysig â'r adeiladau a'r gofodau y maent yn eu defnyddio.
I gloi, meddai: Er mwyn i'r pentref hwn fod yn iach, mae angen diogelu a phlannu mwy o goed, mae angen i fwy o fadarch ymddangos a sboru, mae angen i fwy o artistiaid fynd ati i weithio. Nid hiraethu yw hyn; yn hytrach, mae’n ymwneud ag ail-fframio’r hyn sydd ei angen ar gymuned a sut y gall cymuned fod nawr ac yn y dyfodol. Mae'n ymwneud â rhoi rheswm dros y dynol a'r hyn nad yw'n ddynol, a chryfhau’r cysylltiadau rhyngddynt. Mae'n ymwneud â gwrando'n ofalus arnom ni ein hunain ac eraill, ac mae'r gwrando gofalus hwn yn gelfyddyd ac yn weithrediaeth, ac mae wedi bod yn digwydd o'n cwmpas ers 450 miliwn o flynyddoedd.
Yr hyn y gallwn ei ddysgu
Pan fyddwn yn sôn am bentrefi’n colli eu calon neu gymunedau’n marw, rydym yn aml yn sôn am golli seilwaith dinesig, y siop leol neu’r dafarn. Fyddwn ni ddim yn siarad yn aml am y glud sy'n cadw cymuned gyda'i gilydd, ei phobl. Os ydym am weld pentrefi a threfi sy’n fwy gwydn yn y dyfodol, yn cynhyrchu bwyd ac ynni yn lleol ac yn teithio llai, mae angen inni fuddsoddi yn y bobl sy’n gwneud iddynt ffynnu. Nid yw hyn yn golygu disgwyl i wirfoddolwyr godi'r achos a cheisio creu'r myseliwm cymdeithasol sydd ei angen ar gymuned i oroesi yn unig – mae'n golygu meithrin cynullwyr, trefnwyr a gwneuthurwyr. Buddsoddi mewn diwylliant ar lefel leol mewn ffordd barhaus. Mae hyn mor bwysig i gymdeithas garbon niwtral â llwybr teithio llesol neu gydweithfeydd bwyd.