Lal Davies
Gwneuthurwr ffilmiau, ffotograffydd a bardd yw Lal Davies. Naratifau yn y person cyntaf a rhaglenni dogfen byr yw genres ei ffilmiau, ar gyd-destunau cyfiawnder cymdeithasol, addysg, y celfyddydau a threftadaeth. Mae wedi bod yn gweithio gydag unigolion a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt ers 2001, a hynny gyda phobl a allai fod yn cael eu tangynrychioli, eu camglywed, neu eu gwthio i'r cyrion mewn rhyw ffordd. Yn ei gwaith ei hun, mae Lal â diddordeb ym myd ffotograffiaeth ffilm a barddoniaeth, fel disgyblaethau amlwg ac ar yr ymylon niwlog ble maent yn gorgyffwrdd.
Beth ddysgodd hi
Roedd preswyliad Lal yn canolbwynio ar ‘The Empress’, derwen aeddfed yn y cae gyferbyn â'i thŷ. Defnyddiodd safbwyntiau amrywiol y gymuned o amgylch y goeden hon fel ffordd o archwilio perthynas pobl â natur a naratifau ôl-drefedigaethol. Trwy wneud hyn, ystyriodd Lal y byd y tu allan i'w chartref yn ystod y cyfnod clo. Ei ffocws oedd y goeden unig yn y cae y tu allan i'w thŷ. Ystyriodd ei pherthynas â'r hyn sydd o'i chwmpas a'r ffordd yr oedd yn gwarchod y dirwedd o'i hamgylch. Diben y myfyrdod oedd gwrthdroi ei pherspectif ac edrych allan ar y byd o safbwynt y goeden.
I wneud hyn, bu’n gweithio gyda gardd gymunedol ger y goeden i ddatblygu sesiynau ffilmio creadigol a threfnodd i ysgol ymweld â’r goeden i siarad am bersbectif y plant o'r dirwedd. Dogfennwyd hyn i gyd mewn tair ffilm fer, ryng-gysylltiedig.
Mae Lal yn ystyried sut mae ei threftadaeth gymysg yn newid y ffordd y mae’n gweld y dirwedd, a'r ffordd y caiff hi ei gweld. Gan fyfyrio ar natur y dirwedd a ph'un a yw ei threftadaeth de Indiaidd yn fwy gweladwy oherwydd ideolegau trefedigaethol cydymffurfiaeth, noda:
“Gan siarad mewn ffordd eirdarddol, mae tirwedd yn ehangder o’r amgylchedd canfyddedig: golygfa, rhanbarth, amgylchoedd drwy lygaid yr un sy'n gwylio.Mae hyn yn rhoi statws unigryw i dirwedd yn y profiad amgylcheddol gan na ellir ystyried tirwedd ar ei ben ei hun. Fe'i diffinnir, i bob pwrpas, gan ganfyddiad dynol ac mewn perthynas ag ef. Mae tirwedd yn berthynas.”[1]
Yn ystod y cyfnod ymgynnull, mae’n myfyrio ar daith ei chyndeidiau, a’r rôl a gymerodd trefedigaethedd yn eu dadleoli o’u cartrefi, a'r effaith y mae'n ei chael o hyd ar y berthynas sydd ganddi â’r wlad o’i chwmpas heddiw. Mae'n dathlu'r buddugoliaethau o ddefnyddio'r tir mewn ffordd fwy traddodiadol unwaith eto a chlywed lleisiau'r plant lleol wrth iddynt ymateb iddo. Dywedodd garddwr cymunedol lleol:
“Rwyf wedi edrych ar hyn drwy ystyried sut oedd pethau pan oeddem ni'n blant yn tyfu i fyny o gwmpas y pentref a sut y mae pethau nawr. Felly, pan yn blant, roedd y caeau o amgylch y pentref yn laswellt ar gyfer bwydo gwartheg a defaid, ac erbyn hyn mae llawer mwy o india-corn i'w weld, sy'n tyfu'n eithaf tal.”
Mae'r plant y bu Lal yn gweithio gyda nhw yn ymwybodol iawn o sut y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar eu bywydau yn y dyfodol, ac maent yn pryderu beth fydd yn ei olygu i'r gymuned a'r gofodau naturiol o'u cwmpas.
[1] Arnold Berleant
Yr hyn y gallwn ei ddysgu o hyn
Nid yw pwyntiau cyfeirio mewn cymunedau bob amser yn adeiladau - gallant hefyd fod yn goed a phlanhigion. Mae gweld coed fel rhan o gymuned yn hytrach na nodwedd addurniadol yn cynnig ffordd i ail-ddychmygu mannau gwledig a threfol, gan weld y goeden ‘hynafol’ fel bod amser dwfn ac a all helpu i'n cysylltu â'n gorffennol a'n dyfodol. Mae eu dathlu fel unigolion yn ein galluogi i feddwl sut maent wedi rhyngweithio â’n cyndeidiau, a sut mae hynny wedi eu siapio. Gallai dogfennu straeon ein coed helpu i gysylltu pobl â'u hamgylchedd naturiol ac ymddwyn yn fwy cadarnhaol tuag at fyd natur.