Cerian Wilshere-Davies
Mae Cerian Wilshere-Davies yn ddigrifwr, gwneuthurwr theatr a hwylusydd sydd wedi’u lleoli yn Abertawe. Mae eu gwaith yn canolbwyntio ar hanes Cymru a chreu cysylltiadau rhwng pobl LHDTC+ sy'n byw yng Nghymru a thirwedd, treftadaeth a chymuned Cymru. Cerian yw sylfaenydd Queer Clown Cabaret ac mae’n frwd dros lwyfannu a dathlu lleisiau cwiar. Roedd eu preswyliad yn ymchwiliad i ecoleg cwiar ac yn edrych ar sut y gall y profiad cwiar lywio ein dealltwriaeth o'r amgylchedd a'r gymuned o'n cwmpas.
Dewisodd arfordir Abertawe a Phenrhyn Gŵyr fel preswyliad hyper-leol gan eu bod wedi meithrin perthynas gref gyda'r ardaloedd hyn yn ystod y cyfnod clo. Roedd am archwilio eu hunaniaeth cwiar a'u cysylltiad â Chymru a sut maent yn cydblethu. Un rhan o'r ymchwiliad oedd ceisio deall p'un a yw'r cysylltiadau hyn yn bodoli yn y gymuned LHDTC+ ehangach, pam fod y cysylltiadau hynny'n bodoli, a sut y gallem adeiladu cysylltiadau cryfach yn y dyfodol.
Cynhaliodd ymweliadau safle a gweithgareddau cerdded myfyriol – gan ystyried cwestiynau am y berthynas rhwng hunaniaeth anneuaidd a’r arfordir fel gofod cyfyngedig rhwng y tir a môr.
Gwnaeth alwad agored am bobl o'r gymuned LHDTC+ yn gofyn iddynt gymryd rhan mewn cyfweliad anffurfiol i archwilio eu perthynas ag arfordir Cymru.
Cynhaliodd weithdy creadigol ar draeth Abertawe i bobl LHDTC+ i gynnal gweithgareddau creadigol ac archwilio ecoleg cwiar a'u cysylltiad â’r dirwedd. Roedd naw o bobl yn bresennol. Roedd hanner y cyfranogwyr yn dod o Abertawe a'r hanner arall wedi teithio o Gaerdydd neu Orllewin Cymru.
Beth ddysgon nhw
Roedd llawer o'r bobl a gafodd eu cyfweld gan Cerian yn dod o ardaloedd arfordirol neu gymunedau gwledig. Roedd y rhan fwyaf yn teimlo emosiynau gwrthgyferbyniol iawn am fannau gwledig. Ar un llaw, roeddent yn teimlo bod y cymunedau gwledig y cawsant eu magu ynddynt yn ynysig ac yn arw iawn ar gyfer pobl cwiar. Ar y llaw arall, roeddent yn teimlo bod y dirwedd naturiol yn cynnig gofod anfeirniadol lle gallent gysylltu â byd natur a'u hunaniaeth bersonol. Dywedodd y rhai a gafodd eu cyfweld eu bod yn teimlo bod arwahanrwydd mewn cymunedau gwledig wedi achosi i lawer o bobl ifanc adael Cymru er mwyn mynd i fyw i ardaloedd trefol lle gallent deimlo eu bod yn cael eu derbyn ac yn rhan o gymuned cwiar. Mae hyn yn ei dro yn arwain at lai o gynrychiolaeth ar gyfer pobl cwiar mewn cymunedau gwledig, sy'n gwaethygu'r sefyllfa.
Mae yna garfan fach o bobl cwiar yn symud yn ôl i Gymru. Mae hwn yn gyfle da i greu mwy o gynrychiolaeth, ond mae angen cefnogaeth gan fod modelau rôl LHDTC+ ffurfiannol yn bwysig i helpu pobl ifanc LHDTC+ i gryfhau eu perthynas â natur, Cymru, a’u hunaniaeth eu hunain.
Cafodd mynediad i'r amgylchedd naturiol ei godi fel mater allweddol mewn llawer o’r cyfweliadau. Adroddwyd am faterion ffisegol fel teithio, ond hefyd rhwystrau canfyddiadol, megis teimlo nad oes croeso iddynt mewn rhai mannau cyhoeddus. Roedd yr arfordir yn cael ei weld fel nodwedd hanfodol yn yr ystyr hwn gan ei fod yn cynnig gofod nad oedd yn cael ei ystyried yn rhywle a oedd yn eiddo i neb. Daw hyn i'r amlwg mewn un ymateb a gafwyd yn y cyfweliadau: “I mi, rydw i'n gweld yr ardal yma fel tir neb. All neb eich cwestiynu mewn gwirionedd. Mae'n ymwneud â'r llawenydd o fod mewn gofod cyhoeddus, ond rydych chi hefyd yn cael preifatrwydd y ddaearyddiaeth naturiol a phethau felly. Dydych chi ddim yn mynd i Barc Cenedlaethol neu unrhyw beth felly. Rydych chi'n mynd i'r traeth. All neb eich rhwystro rhag mynd i’r traeth.”
Tynnodd Cerian sylw at y ddamcaniaeth ecoleg cwiar y gall pobl LHDTC+ gael eu gadael allan o amgylcheddaeth oherwydd y camsyniad eu bod yn llai tebygol o gael plant ac felly'n llai tebygol o feddwl am y dyfodol. Gall y meddylfryd hwn hefyd arwain at y camsyniad bod pobl cwiar yn fwy hunanol a hedonistaidd ac felly'n llai tebygol o feddwl am y dyfodol. Mae llawer o bobl cwiar yn ofalus iawn o'u hamgylcheddau naturiol, ac mae hynny i'w weld yn y ffordd y mae aelodau o'r gymuned cwiar yn gofalu am ei gilydd. Fodd bynnag, mae llawer o deimladau anghyfeillgar a negyddol wedi'u targedu at bobl cwiar yn y cyfryngau prif ffrwd, sy'n canolbwyntio ar faterion hunaniaeth rhywedd. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach i bobl LHDTC+ i fod eisiau bod yn agored a rhannu eu profiadau, ac mae perygl na fydd y lleisiau hynny'n cael eu clywed mewn cynllunio cyhoeddus.
Yr hyn y gallwn ei ddysgu o hyn
Gall ecoleg cwiar gynnig ffordd i ni allu ail-ddychmygu ein hunain yn rhan o fyd natur yn hytrach na cheisio ei oruchafu. Mae hyn yn golygu bod yn fwy agored i bersbectif popeth byw a pheidio ag ‘aralleiddio’ pethau eraill er mwyn bodloni ein syniad ni o hierarchaeth arferol bywyd, e.e bodau dynol yw'r prif rym yn y byd ac mae pob peth arall yn ddarostyngedig iddynt. Gall dadansoddiad pellach gynnig ffordd o ddeall ein cysylltiad â byd natur yn well a sut y gallem helpu pobl i deimlo'n gyfrifol am ei ddyfodol.
Ar bwynt dysgu mwy penodol, mae'r prosiect hwn wedi'n dysgu nad yw'r ffaith bod gennych hawl mynediad yn golygu eich bod yn teimlo bod croeso i chi. Mae hyn yn rhywbeth pwysig y dylem ei ystyried wrth ddarparu mynediad cyhoeddus gan y tybir y gall unrhyw un ‘arfer ei hawliau’, sy’n wir. Ond os caiff cymuned ei gwthio i’r cyrion, gall hyn deimlo’n debycach i ofyniad i gymryd yn hytrach na rhodd o roi. Yn yr astudiaeth hon, caiff yr arfordir ei weld fel gofod ‘trothwyol’ sy'n anfeirniadol ac yn barod i dderbyn. Mae hyn yn wahanol yn achos mathau eraill o fannau cyhoeddus neu hamdden, a all deimlo fel eu bod yn beirniadu cymunedau LHDTC+. Mae angen inni ddeall mwy am yr hyn sy'n creu'r rhwystrau y mae cymunedau ymylol yn eu hwynebu a sut y gallwn newid mynediad cyhoeddus o fod yn hawl i gael ei chymryd i fod yn rhodd i'w rhoi.