Catriona James
Mae Catriona yn wneuthurwr theatr amlddisgyblaethol wedi’i lleoli yn Adamsdown, Caerdydd. Roedd ei phreswyliad wedi’i leoli yn Rhandiroedd Parhaol Pengam, safle a adenillwyd o ddiwydiant ac a oedd mewn perygl o gael ei lyncu gan y môr wrth iddo godi. Defnyddiodd y safle i archwilio sut oedd defnydd tir wedi esblygu dros amser a beth allai mannau fel y rhain ei olygu i hunanddibyniaeth gymunedol. Treuliodd Catriona amser ar y rhandir yn sgwrsio gyda'r tenantiaid eraill. Ymchwiliodd i hanes y safle a chynhaliodd gyfres o fyfyrdodau ac ymyriadau creadigol a ddogfennodd mewn cyfnodolyn digidol.
Beth ddysgodd hi
Dywedodd Catriona: Teimlaf fod y materion y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol yn niferus, yn gymhleth ac yn beryglus. Mae bron yn amhosibl ystyried unrhyw un ohonynt ar eu pen eu hunain, ond efallai mai’r materion sy’n ymddangos fel pe bai ganddynt gysylltiad uniongyrchol â chymuned y rhandir yw'r materion sy'n ymwneud â’r gadwyn cyflenwi bwyd, llifogydd a thywydd eithafol. Teimlaf fod yr amser rydw i wedi'i dreulio yma wedi mireinio fy ymwybyddiaeth o'r ffaith bod yna gymaint sydd angen i ni ei wneud! Mae angen dull amlochrog arnom i fynd i'r afael â'r heriau sydd yn ein hwynebu o ganlyniad i newid hinsawdd. Ond mae fy ymchwiliad wedi bod yn galonogol i ryw raddau, yn yr ystyr ei fod wedi dangos cryfder y sefydliadau cymunedol sydd eisoes yn bodoli yn y rhan hon o Gaerdydd. Mae angen inni wneud mwy o waith i rymuso cymunedau i nodi’r hyn sydd ei angen arnynt, a gweithredu i wireddu’r anghenion hynny - ac mae’r math hwn o drefnu cymunedol yn rhan o’r gwaith ehangach sydd ei angen i wrthsefyll y strwythurau cyfalafol sy’n arwain at newid hinsawdd pellach.
Rwy'n meddwl fy mod wedi dysgu hefyd bod newid yn digwydd yn eithaf araf, oherwydd, mewn gwirionedd, rhaid i ni ddenu pobl at bethau'n ofalus er mwyn creu newid parhaol. Gallem wneud newidiadau o'r brig i'r bôn dros nos fel yr oedd yn rhaid i ni eu gwneud gyda'r pandemig, ond dim ond am gyfnod byr y gall pobl ddioddef hyn ac mae'n broses boenus. Efallai y bydd rhaid gwneud hynny ar rai achlysuron yn y dyfodol, ond gwell fyddai denu pobl tuag at newid. Beth ydych chi’n deimlo yr ydych wedi'i ddysgu am y newidiadau sydd angen inni eu gwneud i fynd i’r afael â’r materion hynny? Mae'n debyg fy mod wedi crybwyll hyn yn barod yn y cwestiwn blaenorol. Y gymuned ddylai arwain ar newid, a dylid gwneud hynny hefyd o'r brig i lawr. Teimlaf fod yna densiwn rhwng rôl yr unigolyn a grym corfforaethol/llywodraethol, sy'n aml yn newid cyfrifoldeb. Mae angen i ni ymgysylltu'n well â'r syniad o gydgyfrifoldeb. Rydw i wedi bod yn meddwl am rôl creadigrwydd hefyd. Mynychais yr Uwchgynhadledd Fwyd yng Nghaerdydd fel rhan o fy ymchwiliad, a phan fyddwn yn cyflwyno fy hun fel artist, byddwn yn cael yr un ymateb – fel yr wyf yn ei gael yn aml mewn sefyllfaoedd felly – sef nad yw pobl yn teimlo eu bod yn greadigol mewn unrhyw ffordd.
Rwy'n gweld hynny'n syfrdanol, oherwydd rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n ein gwneud ni'n ddynol yw creadigrwydd. Ac, wrth gwrs, mae cymaint o'n problemau yn deillio o fethiant dychymyg: ein hanallu i ddychmygu rhywbeth gwahanol a gweithredu arno. Mae'n ymddangos mai un peth sydd angen i ni ei wneud yw grymuso pobl i gydnabod eu creadigrwydd eu hunain, wrth greu amgylchedd lle maent yn teimlo eu bod yn gallu gweithredu arno wedyn. Credaf hefyd fod angen inni gael sgyrsiau gonest am dwf, a gweithio tuag at ddatgymalu’r syniad bod twf yn rhywbeth cadarnhaol bob amser. Mae yna wersi i'w dysgu am reoli rhandiroedd, oherwydd mae garddio yn golygu bod angen tocio tyfiant yn sylweddol. Byddai twf na fyddai'n cael ei reoli yn arwain at lain sy'n llawn danadl poethion, sydd ond yn newyddion da i ddanadl poethion.
Dydw i ddim yn gwybod i ba raddau mae newid hinsawdd yn gyrru'r garddwyr cymunedol ac i ba raddau maent yn teimlo na ddylai pobl fod yn ddibynnol ar archfarchnadoedd ac y dylent gyrchu eu bwyd yn lleol. Rydw i wedi cael sgyrsiau difyr gydag un o fy nghymdogion ar y rhandir hefyd, ac wedi clywed am ei ddatblygiad fel garddwr. Mae wedi cyrraedd pwynt nawr lle nad yw'n tyllu ag offer hyd yn oed – dim ond ei ddwylo y bydd yn ei ddefnyddio gan nad yw am darfu ar y pridd. Ar y dechrau, meddai, byddai'n tyllu popeth a chlirio pethau a allai fod wedi compostio. Rwy'n teimlo, er nad yw'n amlwg, ei fod yn meddwl am y darlun mawr yma yn sicr. Y tu hwnt i'r enghreifftiau hynny, dydw i ddim yn gwybod faint mae pobl yn meddwl amdano, oherwydd ar rai adegau pe bawn i'n codi unrhyw beth a oedd yn ymwneud â'r hinsawdd, byddai rhai pobl yn dod â'r sgwrs i ben. Mae'n cymryd amser i gynnal sgwrs ar y lefel honno gan ei fod yn bwnc brawychus iawn.
Y peth sy'n sefyll allan fwyaf i mi yw'r syniad o ragddarluniad, a gyflwynwyd i mi gan fy mentor yn gynnar yn ein sgyrsiau. Gwleidyddiaeth ragddarluniol – i drefnu fy hun, i fyw, yn y modd sy'n adlewyrchu'r ffordd yr wyf am i'r byd fod. Rydw i wedi dychwelyd at y syniad dro ar ôl tro – rydw i yn chwilio amdano yn yr ymchwiliad hwn, yn fy mywyd, ac yn y byd o'm cwmpas. Mae'n rhywbeth yr wyf yn ei gario gyda mi wrth i mi fynd yn fy mlaen yn bendant.
Yr hyn y gallwn ei ddysgu o hyn
Mae rhywbeth sylfaenol i’w ddysgu yma am gyflymder y broses o lunio polisi cyhoeddus, a natur ostyngol gweithio ar raddfa cymdeithas. Yn aml, mae'r newid sy'n ceisio cael ei wneud i gymdeithas yn anghofio am yr unigolion sydd i fod i newid gydag ef. Mae llawer o'r systemau sy'n cael yr effaith fwyaf ar newid hinsawdd, gan gynnwys y system cynhyrchu bwyd, yn cael eu heffeithio'n fawr gan y dewis a wnawn fel unigolion. Fodd bynnag, mae rhan fawr o’r ddadl ar hinsawdd yn canolbwyntio ar atebion system gyfan, yn hytrach na naratifau amgen ynglŷn â sut y gallem fod eisiau byw ein bywydau.
Mae’r astudiaeth hon yn awgrymu y dylid mabwysiadu agwedd arafach a mwy rhyngbersonol at ymgysylltiad sy'n seiliedig ar le, gan fynd â’r sgwrs am newid hinsawdd allan o’r gweithdai a’r grwpiau ffocws ac i’r gofodau cymunedol ble y caiff datrysiadau posibl eu harchwilio’n ddyddiol.