Hen Wlad Ein Plant
Roedd Hen Wlad Ein Plant yn gydweithrediad rhwng Gentle/Radical, National Theatre Wales a Cyfoeth Naturiol Cymru a wnaed yn bosibl gan gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.
Ar gyfer y prosiect hwn, dewiswyd wyth artist i ymgymryd â chyfres o breswyliadau ‘hyperleol’. Roedd hyn yn golygu eu bod yn treulio amser yn eu ‘milltir sgwâr’ yn dadorchuddio a datrys problemau. Yn gofyn cwestiynau iddynt eu hunain a'r bobl o'u cwmpas. Yn edrych ar y pethau bach er mwyn deall y pethau mawr. Cyflwynodd pob artist olygfa unigryw o'r byd o'u cwmpas. Cawsant eu paru â mentoriaid a buont yn rhyngweithio ag arbenigwyr a gwyddonwyr i'w helpu i archwilio eu cymdogaeth trwy lens eu profiad bywyd eu hunain. Gofynasom iddynt gwestiynu beth mae’r safbwyntiau hyn yn ei gyfrannu at y ffordd yr ydym yn gweld ac yn siarad am ddyfodol ein cymunedau, a dyfodol ein hamgylchedd naturiol.
I Natur a Ni, bwriad y prosiect hwn oedd archwilio sut y gallai’r lleisiau creadigol unigol hyn helpu i amlygu themâu sy’n bwysig i ni eu hystyried o ran polisi cyhoeddus, a chyfrannu at y weledigaeth sy’n datblygu.