Canfyddiadau Cam 1
Cyhoeddwyd Adroddiad Natur a Ni Cam 1 ym mis Gorffennaf 2022. Mae'n crynhoi canfyddiadau cam cyntaf y sgwrs genedlaethol ar ba fath o ddyfodol yr ydym am ei weld ar gyfer ein hamgylchedd naturiol.
Cynhaliwyd y sgwrs drwy amrywiaeth o sianeli ymgysylltu ar-lein rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2022.
Daw’r canfyddiadau ar ôl casglu barn:
- 3,069 o ymatebwyr i’r arolwg
- 68 o gyfranogwyr mewn grwpiau ffocws
- 126 o bobl a fynychodd weithdai a
- 186 o gyfranogwyr mewn gweminarau
Prif ganfyddiadau
Tri mater allweddol oedd yn peri’r pryder mwyaf i ymatebwyr yr arolwg:
- Dirywiad neu ddifodiant anifeiliaid a phlanhigion
- Y newid yn yr hinsawdd
- Llygredd mewn afonydd, llynnoedd, a dŵr daear
Cynigiodd y cyfranwyr weledigaethau byw a chalonogol ar gyfer y dyfodol, gydag ymatebion cyffredin i'r arolwg yn dod o fewn pum thema:
- Ffordd wyrddach, hollol wahanol o fyw
- Cynnydd o ran presenoldeb a hygyrchedd mannau gwyrdd
- Rheolaeth leol a chymunedol ar adnoddau naturiol
- Mwy o fesurau i warchod rhywogaethau a bywyd gwyllt
- Trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol
Y prif newidiadau y mae pobl yn barod i'w gwneud i ddiogelu'r amgylchedd yw:
- Newid 1: annog mwy o fywyd gwyllt mewn gerddi a chymunedau
- Newid 2: bwyta cynnyrch lleol pan mae yn ei dymor a
- Newid 3: ymrwymo i ailddefnyddio ac atgyweirio eitemau sydd wedi’u difrodi yn hytrach na’u taflu
Er bod mwy na hanner y rhai a gwblhaodd yr arolwg o'r farn eu bod eisoes yn gwneud cymaint â phosibl, mae'r ffactorau sy'n atal pobl rhag gwneud newidiadau yn ymwneud â’r canlynol:
- costau ychwanegol a fforddiadwyedd
- diffyg seilwaith a
- diffyg polisïau a orfodir gan y llywodraeth
Camau nesaf?
Ein hasesiad oedd bod y rhan fwyaf o bobl a ymatebodd i’r arolwg Natur a Ni yn debygol o fod yn gwybod llawer am y pwnc ac eisoes yn gweithredu ar yr argyfwng natur a hinsawdd.
Cafwyd hefyd rhywfaint o amrywiaeth o ran cyfranogiad o wahanol rannau o Gymru. Gyda hynny mewn golwg, yn ystod cam 2 Natur a Ni aethom ati i geisio barn y grwpiau a’r ardaloedd hynny o Gymru a oedd wedi’u tangynrychioli, gan ofyn i bobl ystyried cyfres o ddatganiadau’n crynhoi canfyddiadau’r cam cyntaf. A oedden nhw’n gweld eu hunain yn y dyfodol sy’n cael ei ddisgrifio?
Er mwyn gwneud hyn, fe aethom i gyfres o ddigwyddiadau mewn ardaloedd lle roeddem wedi cael llai o ymatebion yn ystod ein sgwrs genedlaethol. Fe wnaethom hefyd estyn allan yn benodol i grwpiau a oedd wedi’u tangynrychioli yn sampl ein harolwg, gan gynnwys pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl 23 mlwydd oed ac iau.