Ways of Working
Comisiynwyd Ways of Working, menter gymdeithasol a arweinir gan artistiaid, i guradu naw o weithiau celf digidol newydd gan artistiaid o bob rhan o Gymru i ymateb i naw ysgogiad interim Natur a Ni ynghylch sut y gallwn fod yn byw yn 2050. Roeddem am i’r artistiaid ein helpu i greu naratifau newydd o amgylch gweledigaeth Natur a Ni ac ystyried, neu herio, eu fersiwn hwy o’r dyfodol.
Gellir gweld y canlyniadau yn y darllenydd digidol hwn o'r prosiect:
I Natur a Ni, roedd hwn yn gyfle i agor deialog amgen am y weledigaeth a gyflwynwyd gan Gynulliad y Dinasyddion. Gwyddom mai’r weledigaeth yw’r fersiwn o’r dyfodol y mae ein cymdeithas am ei gweld ond, er mwyn iddi lwyddo, mae angen inni fod yn ymwybodol o’r sefyllfa bresennol a’r cefndir sydd wedi'n harwain yma. Mae pob un o'r artistiaid a gomisiynwyd gan Ways of Working wedi ymchwilio i'r maes hwn. Nhw sydd yn llunio barn, ond mae eu safbwyntiau yn ein helpu i amlygu materion y mae angen inni eu cydnabod a mynd i'r afael â hwy os ydym o ddifrif am gyflawni'r weledigaeth.
Gyda diolch i:
Mae Ways of Working yn fenter sydd wedi'i lleoli yn Abertawe ond mae’n gweithio ledled Cymru. Mae’n arwain ar brosiectau sydd wedi'u sylfaenu ar syniadau lleol a hirdymor er mwyn effeithio ar newid radical a'i rymuso. Mae ei gwaith yn archwilio defnydd tir, cyfiawnder cymdeithasol a chroestoriadedd yn ogystal â systemau bwyd a’r chwalfa yn yr hinsawdd. Er mwyn darganfod mwy, ewch i https://www.waysofworking.org/